DOLENNU rhwydwaith cymunedol community network
Rhwydwaith cymunedol yng Nghymru yn sicrhau £1m* i ymchwilio i dwristiaeth, diwylliant a threftadaeth er budd y gymuned
Mae'r rhwydwaith cymunedol lleol Dolennu wedi sicrhau ychydig o dan £1m* o gyllid i alluogi trigolion i ymchwilio i dwristiaeth, diwylliant a threftadaeth i ysgogi buddion cymunedol diriaethol. Gan fynd i'r afael â'r heriau hyn, bydd y prosiect yn dod â dinasyddion lleol, mentrau, rhanddeiliaid ac arbenigwyr ynghyd i gynnal ymchwil ar y cyd a llunio atebion a strategaethau arloesol. Mae'r arian wedi'i ddyfarnu drwy gam dau (cam gweithredu) y rhaglen Rhwydweithiau Ymchwil Cymunedol, sydd wedi'i hariannu gan UK Research and Innovation (UKRI), a bydd yn cael ei gyflwyno gan The Young Foundation, sefydliad dielw sy'n arbenigo mewn ymchwil cymunedol ac arloesi cymdeithasol. Mae Dolennu yn seiliedig ar Lwybr Llechi Eryri sy'n cysylltu cymunedau o ddyffrynnoedd Ogwen, Ffestiniog, Nantlle, a Chonwy. Yng ngham un y rhaglen, derbyniodd y grŵp £25k o gyllid, a ddefnyddiwyd i recriwtio a hyfforddi timau o ymchwilwyr cymunedol i ddatblygu sgyrsiau am dwristiaeth mewn digwyddiadau lleol a sesiynau galw heibio. Mae canfyddiadau'r ymchwil yn archwilio cymhlethdodau twristiaeth yn y rhanbarth, ac yn nodi Llwybr Llechi Eryri fel cyfle allweddol i archwilio dull gwahanol o ymdrin â thwristiaeth. Bydd ail gam y prosiect yn galluogi'r rhwydwaith i ddatblygu 'ymchwil gweithredol' cyfranogol a arweinir gan y gymuned, math o ymholi hunanfyfyriol a wneir gan gyfranogwyr mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Byddant yn gwneud hynny gyda chymorth a hyfforddiant gan ymchwilwyr cymdeithasol proffesiynol a chynghorwyr academaidd. Maes gweithgarwch arbrofol yw hwn, i helpu i nodi'r hyn sy'n gweithio (a'r hyn nad yw'n gweithio). Bydd y canlyniadau'n cael eu nodi mewn pecynnau cymorth, llawlyfrau a chyfryngau eraill, a'u rhannu â chymunedau eraill sy'n wynebu heriau tebyg. Dywedodd Jo Quinney, Arweinydd Dolennu yng Nghynghrair Economi Sylfaenol Cymru Cyf: “Rydym yn llawn cyffro bod rhwydwaith ymchwil cymunedol Dolennu wedi derbyn cyllid grant i rymuso cymunedau lleol yn rhanbarth Eryri. Arweinir yr ymchwil gan ein timau o ymchwilwyr llechi lleol a thros gyfnod y prosiect byddant yn datblygu eu sgiliau eu hunain, yn rhannu eu dysgu ag eraill, ac yn hwyluso sgyrsiau agored o fewn eu cymunedau. Mae’r grant hwn hefyd yn cryfhau partneriaethau lleol gyda Chyngor Gwynedd, Parc Cenedlaethol Eryri, Prifysgol Bangor, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, gan feithrin rhwydwaith ehangach ar gyfer dysgu ac effaith ar y cyd.” Dywedodd Helen Goulden OBE, Prif Weithredwr The Young Foundation: Gwyddom mai cymunedau a dinasyddion lleol sy’n deall anghenion lleol orau, a’u bod yn hanfodol i fynd i’r afael â materion cymdeithasol cymhleth. Dyna pam mae rhaglen y Rhwydweithiau Ymchwil Cymunedol mor bwysig. Bydd y mewnwelediad a geir gan Dolennu a rhwydweithiau ymchwil lleol eraill yn hanfodol os ydym am gydweithio i fynd i’r afael â rhai o’r heriau parhaus a hen ffasiwn sy’n ein hwynebu. Ac ar lefel genedlaethol, rydym yn gobeithio cyfrannu’n weithredol at seilwaith newydd ac esblygol i gefnogi ymchwil cymunedol ledled y DU. Mae hyn yn greiddiol i strategaeth The Young Foundation, ac fel partner cyflawni rydym yn falch o fod yn gweithio ochr yn ochr â UKRI i gefnogi’r gwaith hwn dros y pum mlynedd nesaf – a thu hwnt.” Dywedodd Prif Weithredwr UKRI, yr Athro y Fonesig Ottoline Leyser: “Rwy'n falch iawn o weld ail gam rhaglen Rhwydweithiau Ymchwil Cymunedol UKRI yn cael ei lansio, mewn partneriaeth â The Young Foundation. “Yn UKRI rydym yn credu’n gryf y dylai ymchwil ac arloesi fod gan bawb, i bawb, ym mhobman. Mae'r rhaglen hon yn cynnig newid sylweddol yn y ffordd y mae UKRI yn ariannu ymchwil ac arloesi i adlewyrchu'r flaenoriaeth hon. Rydym yn rhoi arian yn nwylo cymunedau i fynd i’r afael â’r materion sydd bwysicaf iddynt. “Rwy’n llawn cyffro i weld sut y bydd y naw rhwydwaith hyn yn gwella cysylltedd o fewn a rhwng rhanbarthau’r DU, gan gyfrannu at system ymchwil ac arloesi sy’n elwa ar arbenigedd a dealltwriaeth amrywiol.” Nod y rhaglen Rhwydweithiau Ymchwil Cymunedol yw rhoi cymunedau wrth galon ymchwil, dyfarnu grantiau i sefydliadau sydd â diddordeb mewn cefnogi pobl leol ar draws y DU, a gweithio gyda nhw i ddeall yn well eu rôl werthfawr mewn ymchwil ac arloesi. Mae'r rhaglen wedi dyfarnu cyfanswm o £9m** i rwydweithiau cymunedol ledled y wlad yn yr ail gam hwn, gyda £625k ychwanegol wedi'i ddyfarnu yn y cam cyntaf. Mae partneriaid rhwydwaith Dolennu yn cynnwys Cwmni Bro Ffestiniog, Cynghrair Economi Sylfaenol Cymru Cyf (FAW), Foundational Economy Research Ltd, Llwybr Llechi Eryri, Partneriaeth Ogwen, People’s Economy a Siop Griffiths, ac Ymchwilwyr Llechi o ddyffrynnoedd Eryri, Ogwen, Ffestiniog, Nantlle a Chonwy. Mae grŵp Rhanddeiliaid Dolennu yn cynnwys: Cyngor Gwynedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Sir Ynys Môn, Parc Cenedlaethol Eryri, Prifysgol Bangor, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Tirwedd Llechi Gogledd Orllewin Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ecoamgueddfa Llŷn, Cymunedoli, a LleCHI LleNI. Mae rhwydwaith Dolennu yn un o naw prosiect ymchwil cymunedol ar draws y DU sydd wedi derbyn cyllid fel rhan o ail gam y prosiect hwn. Mae derbynwyr grant eraill yn cynnwys rhwydwaith sy'n mynd i'r afael â heriau gwledig yn Durham, a grŵp sy'n ymchwilio i anghydraddoldeb economaidd yng nghymunedau Belfast. Ewch i www.youngfoundation.org/community-research-networks i ddarganfod mwy a chofrestru i gael diweddariadau. *Cyfanswm y grant gwirioneddol a dderbyniwyd gan Dolennu yn ail gam y rhaglen Rhwydweithiau Ymchwil Cymunedol yw £999,750. Mae'r prosiect eisoes wedi derbyn £25k ychwanegol yng ngham cyntaf (mynegi diddordeb) y rhaglen. |
Local community network secures £1m* to research tourism, culture and heritage for community benefit
Local community network Dolennu has secured just under £1m* funding to enable residents to research tourism, culture and heritage to drive tangible community benefits. Addressing these challenges, the project will bring together local citizens, enterprises, stakeholders and experts to conduct collaborative research and shape innovative solutions and strategies. The money has been awarded through phase two (the implementation phase) of the Community Research Networks programme, which has been funded by UK Research and Innovation (UKRI), and will be delivered by The Young Foundation, a non-profit organisation that specialises in community research and social innovation. Dolennu, which means ‘to link’ is based around the Llwybr Llechi Eryri (the Eryri/Snowdonia Slate Trail) and includes communities from the valleys of Ogwen, Ffestiniog, Nantlle, and Conwy. In phase one of the programme, the group received £25k in funding, which it used to recruit and train teams of community researchers to develop conversations about tourism at local events and drop-in sessions. The research findings explore the complications of tourism in the region, and identify Llwybr Llechi Eryri as a key opportunity to explore a different approach to tourism. The second phase of the project will enable the network to develop participatory, community-led ‘action research’, a form of self-reflective enquiry undertaken by participants in social situations. They will do so with support and training from professional social researchers and academic advisors. This is an experimental field of activity, to help identify what works (and what doesn’t work). The results will be captured in toolkits, handbooks and other media, and shared with other communities facing similar challenges. Jo Quinney, Dolennu Lead at Foundational Economy Alliance Wales Ltd, said: “We are excited that the Dolennu community research network has received grant funding to empower local communities in the Eryri (Snowdonia) region. The research is led by our teams of locally-based slate researchers and over the course of the project they will develop their own skills, share their learning with others, and facilitate open conversations within their communities. This grant also strengthens local partnerships with Cyngor Gwynedd, Eryri National Park, Bangor University, The Slate Landscape of Northwest Wales UNESCO World Heritage Site, fostering a broader network for shared learning and impact.” Helen Goulden OBE, CEO at The Young Foundation, said: “We know that local communities and citizens understand local needs best, and are fundamental to tackling complex societal issues. Which is why the Community Research Networks programme is so important. The insights gained from Dolennu and other local research networks will be vital if we are to work together to tackle some of the persistent and entrenched challenges we face. And at a national level, we hope to be actively contributing to a new and evolving infrastructure to support community research across the UK. This is core to The Young Foundation’s strategy, and as delivery partner we are proud to be working alongside UKRI to support this work over the next five years – and beyond.” UKRI Chief Executive Professor Dame Ottoline Leyser, said: “I am delighted to see the launch the second phase of UKRI’s Community Research Networks programme, in partnership with The Young Foundation. “At UKRI we strongly believe that R&I should be by everyone, for everyone, everywhere. This programme offers a step-change in the way UKRI funds R&I to reflect this priority. We are putting money into the hands of communities to tackle the issues that matter most to them. “I am excited to see how these nine networks will enhance connectivity within and between the UK’s regions, contributing to an R&I system that benefits from diverse expertise and understanding.” The aim of the Community Research Networks programme is to put communities at the heart of research, awarding grants to organisations that are interested in supporting local people across the UK, and working with them to better understand their valuable role in research and innovation. The programme has awarded a total of £9m to community networks across the country in this second phase, with an additional £625k awarded in the first phase. Dolennu network partners include Cwmni Bro Ffestiniog, Foundational Economy Alliance Wales Ltd (FAW), Foundational Economy Research Ltd, Llwybr Llechi Eryri (the Eryri/Snowdonia Slate Trail), Partneriaeth Ogwen, People’s Economy and Siop Griffiths, and Slate Researchers from the valleys of Ogwen, Ffestiniog, Nantlle and Conwy. The Dolennu Stakeholder group includes: Cyngor Gwynedd, Conwy County Borough Council, Cyngor Sir Ynys Môn, Eryri National Park, Bangor University, The Slate Landscape of Northwest Wales UNESCO World Heritage Site, Natural Resources Wales, Llyn Ecomuseum, Cymunedoli, and LleCHI LleNI. The Dolennu network is one of nine community research projects across the UK that has received funding as part of the second phase of this project. Other grantees include a network addressing rural challenges in Durham, and a group researching economic inequality in Belfast communities. Visit www.youngfoundation.org/community-research-networks to find out more and register for updates. *Actual grant received by Dolennu in the second phase of the Community Research Networks programme totals £999,750. The project has already received an additional £25k in the first (expression of interest) phase of the programme. |